Adnabod Duw
Cymdeithgas lle mae addoli addolgar yn cynorthwyo pobl i gysylltu a Duw drwy Grist.
Perthynas gyda Duw drwy Grist yw sylfaen popeth yr ydym ac a gyflawnwn fel pobl Duw.
Mae gweddi a ac addoli yn elfennau sylfaenol i’n cenhadaeth a cheisiwn yn ddyfal am Gyfeirad ac awdurdod yn ein bywyd bob dydd a’n gweinigaethu ym mhob peth a wnawn.
Cydnabyddwn fod angen ein gwasanaethau a phob mynegiant o addoliant yn apelio at bob cenhedlaeth ac yn berthnasol i’r diwylliant a’r cyd destun yr ydym ni yn trigo ynddo.
Byw y tu hwnt i ni ein hunain
Mae cymdeithas sy’n hael a phositif ei chyfraniad mewn gair a gweithred drwy’r hoff fyd.
Mae bod yn eglwys yn golygu byw bwyd lletach na phoemi am ein pryderon ni ein hunain. Mae yn galw ar i ni dystio i’n ffydd a gwasanaethu cymdeithasau sydd o’n cwmpas, gan arddangos cariad Crist drwy haelioni a chynnig gwasanaeth i’r rhai sydd mewn angen.
Fe ellir fynegu ein cariad tuag at gymydog mmewn amrywiol ffyrdd:
• darparu cyfeillach i bobl hyn;
• estyn cymorth i riant newyddor;
• ammddiffyn bcyfiawnder vymdeithasol a gweithredu dros arbed hinsawdd.
Llunio cymuned
Creu cymuned gariadus lle mae aelodau'n mwynhau perthnasoedd gwirioneddol a gofalgar â'i gilydd ac yn rheoli eu hadnoddau'n dda.
Rydym wedi ein galw i gymuned â'n gilydd fel teulu Duw. Fel mewn unrhyw gartref, mae angen i ni reoli ein hadnoddau, meithrin ein perthnasoedd a gofalu am ein gilydd. Ein galwad yw cynnig lletygarwch cynhwysol a hyrwyddo cyfranogiad gweithredol ym mywyd y gynulleidfa.
Rydym yn gyfrifol am reoli ein heglwysi ac adeiladau eraill. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn bodloni gofynion statudol ac yn addas ar gyfer gweinidogaeth a phwrpas eu cymunedau.
Tyfu yng Nghrist
Cymuned lle mae unigolion yn datblygu yn eu ffydd ac yn defnyddio eu doniau er lles pawb.
Mae bod yn ddisgybl i Grist yn daith o dwf a datblygiad.
Mae tyfu yng Nghrist yn gofyn am ymrwymiad unigol, wedi'i feithrin gan amgylchedd cefnogol a chydweithredol sy'n ein hannog i ddarganfod, datblygu a chynnig ein doniau.
Mae angen hyfforddi a grymuso arweinwyr ar gyfer gweinidogaeth a'u cefnogi i ddatblygu eu sgiliau a'u gwydnwch drwy gydol eu gweinidogaethau.